GWYBODAETH CORONAVIRUS.
GWYBODAETH COVID-19
Canllaw i aelwydydd ynghylch pryd i gael prawf ar gyfer COVID-19 ac am ba hyd y dylid hunanynysu
MAE FY MHLENTYN YN SÂL A fyddech chi wedi cadw’ch plentyn o’r ysgol cyn Covid-19?
CHWISTRELL FFLIW
Gwybodaeth chwistrell ffliw Ysgol Llannon 26ain o Dachwedd
GWYBODAETH I RIENI – COVID
Gwybodaeth Gwyliau Hanner Tymor
Llythyr Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Addysg, Gareth Morgans
Nodwch newid mewn amser i gasgle eich plant ar ddiwedd dydd
COVID 19 – Gwnewch eich rhan – Stopiwch y feirws rhag lledaenu
Isod ceir dolen i’r safle gwybodaeth Coronavirus diweddaraf. Bydd unrhyw wybodaeth newydd yn ymddangos ar y wefan yma.
https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/
https://einpobl.sirgar.llyw.cymru/ein-pobl/canllawiau-coronafeirws/
CWESTIYNAU CYFFREDIN AIL AGOR YSGOLION
https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/re-opening-schools/?type=45929#.XutGUi_MyqA
CYTUNDEB CARTREF – YSGOL
DYCHWELYD I’R YSGOL YM MIS MEDI
AILGYDIO YN YR YSGOL-GWYBODAETH PWYSIG
Y TYMOR YSGOL I ORFFEN AR 17 GORFFENNAF
FURTHER INFORMATION ON “CHECK IN, CATCH UP AND PREPARE FOR SUMMER AND SEPTEMBER” SESSIONS.
GWYBODAETH PELLACH AR “AILGYDIO, DAL I FYNY A PHARATOI I’R HAF A MIS MEDI”
GWYBODAETH AR AIL GYDIO, DAL I FYNY A PHARATOI AR GYFER YR HAF MIS MEDI
RHWYDWAITH DIABETES CYMRU I BLANT A PHOBL IFANC
Mae angen i blant sydd â diabetes Math 1 ac sydd heb gael diagnosis ohono gael sylw meddygol ar frys.
Os oes gan eich plentyn UNRHYW un o brif symptomau diabetes Math 1, gwnewch apwyntiad brys gyda’r meddyg teulu neu cysylltwch â’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau. Y 4 prif symptom yw syched, mynd i’r toiled, blinder, colli pwysau. Os byddwch yn sylwi bod syched ar eich plentyn neu os yw’n mynd i’r toiled yn amlach, os yw bob amser yn flinedig, neu wedi colli pwysau’n ddiweddar, gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith.
Mae gwasanaethau’r GIG mewn sefyllfa dda iawn i ofalu am blant yn ddiogel os ydyn nhw’n sâl. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gyngor meddygol oherwydd Covid-19.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.diabetes.org.uk/in_your_area/wales/campaigning/know-type-1—wales
CYNGOR IECHYD MEDDWL
Mae’r adeg anodd yma yn medru peri gofid ac ymdeimlad o ansicrwydd i oedolion ac i blant. Yn ystod yr adeg yma mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gofalu am ein iechyd meddwl. Ewch i tab ‘Iechyd Meddwl’ i ddarganfod gwybodaeth pellach ac adnoddau.
GWASANAETH CWNSELA AREA 43
Yn ystod yr amser mae ysgolion Sir Gâr ar gau, bydd cwnselwyr ysgolion Area 43 yn cynnig cwnsela o bell, fesul Zoom, platfform ar-lein gan ddefnyddio dolen tecst, clywedol neu fideo neu dros y teleffon.
I gael mynediad i gefnogaeth cwnsela, a wnewch chi gwblhau dolen hunan-gyfeirio (ar gyfer plant/pobl ifanc blwyddyn 5 ac yn hŷn yn Sir Gâr) a bydd cwnselydd yn cysylltu gyda chi yn uniongyrchol.
PRYDAU YSGOL AM DDIM
O ddydd Iau, bydd pecynnau cinio ar gael i blant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn y lleoliadau canlynol:
Ysgol Y Castell, Ysgol Rhys Prichard, Ysgol Carreg Hirfaen a phob ysgol uwchradd.
Mae gwybodaeth ynghylch dosbarthu prydau ysgol am ddim wedi’i rhyddhau ar wefan isod a gellir ei gweld drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2020/03/parhau-i-ddarparu-prydau-ysgol-am-ddim/#.Xnoy78j7RPY
GWYBODAETH PWYSIG I RIENI
Gwybodaeth bwysig ynghylch darpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol.
http://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2020/03/darparu-gofal-i-blant-gweithwyr-allweddol/
AROLWG EFFAITH COVID-19 AR RIENI
Gofynnir i rieni yn Sir Gaerfyrddin rannu eu barn ynghylch y cyfyngiadau symud tra bod ysgolion wedi bod ar gau.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio arolwg yn gofyn i rieni roi eu hadborth ynghylch yr heriau y maent wedi’u hwynebu wrth i blant ddysgu yn eu cartrefi, ac i helpu i lywio addysg yn lleol dros yr wythnosau nesaf.
CORONAFEIRWS – HWB GWYBODAETH I BLANT A THEULUOEDD
https://www.complantcymru.org.uk/coronafeirws/