Ysgol Iach

Lles Mae Ysgol Llannon yn dilyn cyfarwyddiadau Ysgolion Iach y Sir. Rydym fel ysgol yn pwysleisio gofalu am iechyd trwy annog byrbrydiau ffrwythau amser chwarae, dŵr yn unig yn y poteli a gwneud yn siwr bod cynnwys bocsys bwyd yn iach. Mae aelodau’r Cyngor Ysgol a Chyngor Ysgol Iach hefyd yn gyfrifol am werthu ffrwythau amser chwarae. Mae hyn yn helpu datblygu disgyblion rhifyddog. Eleni hefyd bu’r aelodau yn cynnig cyngor ar fod yn ddiogel yn yr haul – Slip Slap Slop, y plât bwyta’n iach. Cafodd nifer o ddisgyblion eu hyfforddi gan y Sir ar “Bod yn Bydis.” Mae’r bydis yn sicrhau nad oes neb heb ffrind amser egwyl. Mae’r cyfrifoldeb hyn yn helpu datblygu sgiliau cyfathrebu’r Bydis. Cynhaliwyd gweithdai i bob dosbarth gan SBECTRWM ar agweddau fel cadw’n ddiogel, perthnasedd, cam drin yn y cartref ayb Hefyd cafodd ddisgyblion flwyddyn 5 a 6 weithdy gan yr NSPCC. Mae llysgenhadwyr yr ysgol yn cyflwyno Hawliau Plant i holl ddisgyblion yr ysgol ac hefyd yn mynychu hyfforddiant gan Comisiynydd Plant Cymru. Cliciwch i gyrraedd tudalen i rieni ar SchoolBeat.

Diogelwch tu allan i’r ysgol 

Mae’r cyngor wedi dangos consyrn am y ffaith fod bobl dal i barcio ar y llinellau melyn tu allan i’r ysgol. Penderfynodd y Cyngor Ysgol Iach i greu poster er mwyn annog bobl i beidio a pharcio yno.

SPEED WATCH

Dyma ychydig o ddisgyblion y Cyngor Ysgol Iach yn helpu Cyngor Cymunedol Llannon i fonitro cyflymder ar y brif ffordd drwy Llannon.

Network Rail-Safety