Llannon School

CROESO I YSGOL LLANNON

Cyd-baratoi heddiw at ddyfodol yfory Yn Ysgol Llannon, ein nôd yw darparu awyrgylch cysurus ar gyfer bob plentyn er mwyn hybu ei ddatblygiad moesol, ysbrydol, diwylliannol a chorfforol.

Mae llawer o ymwelwyr yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael a chwrteisi ac aeddfedrwydd ein disgyblion. Mae’r berthynas rhwng athrawon, oedolion a disgyblion yn dda ac wedi ei seilio ar gyd-barch a gofal tuag at eraill.

Ysgol hapus yw Ysgol Llannon, ac mae hyn yn deillio o’r boddhad cynyddol yn y gweithgareddau llwyddiannus sy’n mynd ymlaen yma. Mae ymdrech o’r fath yn gwneud disgyblion, rhieni, staff, yr Awdurdod lleol a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn falch o’u cysylltiad a’r ysgol.Ymfalchiwn yn llwyddiant ein disgyblion ymhell wedi iddynt ein gadael.

Wedi cwbwlhau eu haddysg yn Ysgol Llannon, mae’n disgyblion yn parhau eu haddysg yn yr ysgolion Uwchradd lleol.